Ynglŷn â
Mae Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth yn fenter ar gyfer y ddinas gyfan sy’n ceisio creu dinas fwy cynhwysol drwy:
- gwella dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o sut beth yw bod yn niwroamrywiol,
- creu amgylcheddau mwy croesawgar a hygyrch, a
- wella mynediad at wybodaeth a chyngor.
Rydym yn datblygu strategaeth ledled y ddinas a fydd yn amlinellu ein blaenoriaethau a’n hymrwymiadau allweddol o sut y gallwn weithio tuag at ddod yn Gaerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth. Mae ein blaenoriaethau a’n hymrwymiadau wedi’u llunio drwy ymgysylltu â phobl yng Nghaerdydd sydd â phrofiad personol.
Mae’r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu eich adborth ar yr hyn yr hoffech ei weld ar ein gwefan.