Hybiau a Llyfrgelloedd sy’n Deall Niwrowahaniaeth
Fel rhan o’r gwaith o adeiladu Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth, rydyn ni wedi derbyn Cyllid Ffyniant Gyffredin ac rydyn ni’n gweithio gyda’n Hybiau a’n llyfrgelloedd i’w gwneud nhw’n fwy hygyrch a chynhwysol i bobl sy’n niwrowahanol.
Mae gennym Hyrwyddwyr Gweithle Niwrowahanol wedi eu hyfforddi gan DoIt Solutions sydd yn cefnogi cydweithwyr i hyrwyddo a datblygu adnoddau niwrowahanol ac ymwybyddiaeth yn eu gweithle.
Mae staff hybiau hefyd wedi cael hyfforddiant a gyflwynir gan Autentic i ddeall
- cyfathrebu
- gofodau, ac
- iaith sy’n cefnogi pobl niwrowahanol.
Gallwch ddysgu mwy am rai o’r ffyrdd rydym yn gwneud ein Hybiau a’n llyfrgelloedd yn well i bobl niwrowahanol.


Teithiau rhithwir
Rydym wedi ffilmio teithiau o’n holl Hybiau a llyfrgelloedd fel y gallwch gynllunio eich ymweliad ymlaen llaw ac ymgyfarwyddo â’r gofod. Yn y teithiau rhithwir hyn gallwch ddod o hyd i:
- ddolenni at weithgareddau sy’n digwydd,
- gwybodaeth am wasanaethau,
- mapiau synhwyraidd a mapiau llawr,
- gwybodaeth ynghylch pryd y bydd yr Hyb neu’r llyfrgell yn brysur, a
- chyfle i roi adborth am eich ymweliad rhithwir.
Adnoddau synhwyraidd
Mae Prosiect Hybiau Caerdydd sy’n Gyfeillgar i Niwroamrywiol, Grŵp Ieuenctid Scope a Grŵp Ieuenctid Neuro Roots wedi cydgynhyrchu’r casgliad o adnoddau synhwyraidd i wneud lleoedd astudio yn fwy hygyrch i’r rhai ag anghenion synhwyraidd.
Dewisodd y grwpiau ieuenctid plastig clir fel y gallwch weld y cynnwys a theimlo’n hyderus bod ganddynt adnoddau rydych chi am eu defnyddio cyn eu benthyca. Mae eitemau mwy fel rhanwyr desg a gorffwysfeydd cefn hefyd ar gael.
Mae’r bagiau’n cynnwys eitemau fel:
- teganau ffidlo
- amseryddion tywod,
- arlliwiau lliw,
- rhanwyr desg,
- ffaniau desg a lampau
- gweithgareddau lliwio meddwlgarwch, a
- chlustffonau atal sŵn.
Mae gennym hefyd adnoddau synhwyraidd a dodrefn arbenigol i blant eu defnyddio yn ystod eu hymweliad, fel:
- bagiau gyda theganau synhwyraidd, gan gynnwys amddiffynwyr clust i blant,
- byrddau golau synhwyraidd, a
- chadeiriau troelli.


Mannau tawel synhwyraidd
Bydd corneli synhwyraidd a meysydd tawelach ar gael yn ein Hybiau i chi eu defnyddio os ydych chi’n teimlo’n bryderus. Mae corneli synhwyraidd rhyngweithiol yn cefnogi hunanreoleiddio a thawelu ac yn cynnwys technoleg synhwyraidd fel::
- padiau seddi sy’n dirgrynu,
- carpedi sy’n disgleirio, a
- goleuadau uwchfioled y gellir eu rheoli.
Fe welwch gorneli synhwyraidd yn yr Hybiau hyn:
- Treganna,
- Llanedern,
- Llanrhymni,
- Pen-y-lan,
- Hyb Partneriaeth Tredelerch
- Llaneirwg,
- Radur
- STAR
- Ystum Taf,
- Y Tyllgoed.
Categorised in: Hubs and Libraries@cy