Ein digwyddiadau ymgysylltu a’n grwpiau ffocws
Ein nod yw i Gaerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth gael ei siapio gan y bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi bod yn ymgysylltu ag unigolion, aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol niwrowahanol. Mae hyn wedi cynnwys cynnal digwyddiad ymgysylltu llwyddiannus a sawl grŵp ffocws ar-lein.
Mae nifer o randdeiliaid wedi mynychu ein grwpiau ffocws. Mae hyn wedi ein helpu i gasglu adborth gwerthfawr gan:
- unigolion niwrowahanol,
- rhieni a theuluoedd,
- gofalwyr di-dâl,
- eiriolwyr, a
- gweithwyr proffesiynol.


Roedd ein hymgysylltiad yn cynnwys siarad â phobl sydd â phrofiad byw i siarad am y rhwystrau a’r heriau sy’n eu hwynebu yn y ddinas. Fe wnaethom nodi mai rhai o’r heriau mwyaf cyffredin sy’n wynebu’r gymuned niwrowahanol yw:
- stigma,
- diffyg dealltwriaeth, ac
- ansawdd y wybodaeth sydd ar gael.
Yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth o’r heriau a’r rhwystrau, roedd ein hymgysylltiad hefyd yn rhoi gofod i bobl rannu atebion ar sut y gallwn wneud y ddinas yn fwy cynhwysol. Mae’r syniadau i wneud Caerdydd yn ddinas sy’n deall niwrowahaniaeth yn well yn cynnwys:
- gwella dealltwriaeth o niwrowahaniaeth,
- creu mwy o fannau sy’n deall niwrowahaniaeth,
- cynyddu gwybodaeth am niwrowahaniaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gaerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth, anfonwch e-bost atom.
E-bost: DeallNiwrowahaniaeth@caerdydd.gov.uk

Categorised in: Engagement Information@cy